Datganiad o Ddiben a Gwerthoedd

Arolygiaeth annibynnol yw Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi, a ariennir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac sy’n adrodd yn uniongyrchol i’r Ysgrifennydd Gwladol. Ein diben yw adrodd ar effeithiolrwydd gwaith gydag oedolion, plant a phobl ifanc sydd wedi troseddu, gwaith ac iddo’r nod o leihau aildroseddu a diogelu’r cyhoedd, pwy bynnag sy’n ei gyflawni. Rydym yn arolygu ansawdd ac effeithiolrwydd (y canlyniadau a gyflawnir) gwasanaethau a ddarperir ac yn gwneud argymhellion sydd wedi eu llunio er mwyn cynorthwyo darparwyr i wella effeithiolrwydd eu gwasanaethau’n barhaus a gwella’u canlyniadau o safbwynt lleihau aildroseddu.

Wrth weithio’n unol â’n datganiad o ddiben:

  • rydym yn ceisio cyfrannu at ddatblygu arferion effeithiol y sefydliadau yr ydym yn arolygu eu gwaith
  • byddwn yn adnabod ac yn lledaenu’r arferion gorau ar sail canfyddiadau arolygiadau
  • byddwn yn herio arferion gwael ac aneffeithiol ar sail canfyddiadau arolygiadau
  • byddwn yn cyfrannu at ddatblygu polisi cadarn sy’n galluogi ac yn hwyluso arferion effeithiol ond sy’n osgoi dyblygu a biwrocratiaeth dianghenraid
  • byddwn yn cyfrannu at effeithiolrwydd cyffredinol y system cyfiawnder troseddol, yn enwedig trwy waith ar y cyd ag arolygiaethau eraill
  • byddwn yn mynd ati o ddifrif i hyrwyddo amrywiaeth, o fewn ein sefydliad ein hunain, ond hefyd yn y sefydliadau yr ydym yn arolygu eu gwaith.

 

Gwerthoedd

Uniondeb

Rydym yn gweithio mewn ffordd annibynnol, onest, agored, proffesiynol, teg a chwrtais.

Atebolrwydd

Rydym yn ddibynadwy ac yn cadw at y casgliadau a gyrhaeddwn ar sail tystiolaeth. Byddwn bob amser yn gwbl atebol am ein gweithredoedd.

Effeithiolrwydd

Rydym yn adrodd ac yn cyhoeddi canfyddiadau arolygiadau ar argymhellion ar gyfer gwella, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau ac arferion effeithiol, yn brydlon ac i safon uchel.

Cynhwysiant

Rydym yn hyrwyddo sylw i amrywiaeth ym mhob agwedd o’n gwaith, gan gynnwys o fewn ein arferion cyflogi a’n prosesau trefniadol ein hunain ac ymrwymwn i geisio cydraddoldeb canlyniadau i bawb.